Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Medi 2015
Amser:
08.30 - 08.53
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru |
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ddydd Mawrth.
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Ddydd Mercher, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i drefnu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 14 Hydref 2015 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar ei Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru – Tlodi ac Anghydraddoldeb (60 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Yn wyneb sylwadau a wnaed gan y Rheolwyr Busnes yn y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2015 ynghylch adolygu rhannau o’r Rheolau Sefydlog cyn diwedd y Pedwerydd Cynulliad, bu Rheolwyr Busnes yn trafod papur a oedd yn nodi’r darpariaethau perthnasol a’r dewisiadau posibl mewn perthynas â maint pwyllgorau.
Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i drafod y papur gyda’u grwpiau a dychwelyd at y mater yn y cyfarfod ar 20 Hydref 2015. Yn y cyfamser, gofynnodd y Rheolwyr Busnes i’r Ysgrifenyddiaeth ddosbarthu pwyntiau penodol yn ymwneud â maint pwyllgorau i’r grwpiau plaid eu hystyried.